Cartref > Ysgol > Llywodraethwyr
Llywodraethwyr
Mae rôl y llywodraethwyr yn hanfodol i ddatblygiad yr ysgol, ac yn cynorthwyo drwy eistedd fel bwrdd ymgynghorol a chyfarwyddol, Gwnant benderfyniadau yngly^n â sut mae’r ysgol yn cael ei gweithredu. Bydd y corff llawn yn cyfarfod o leiaf un waith bob tymor, a cheir cyfarfodydd rheolaidd o’r is bwyllgorau i drafod agweddau staffio, cyllid, addysg arbennig, cwricwlwm ac adeiladau.
Mae llywodraethwyr yn cael eu penodi i gynorthwyo :-
- I benderfynu beth sydd yn cael ei ddysgu a fod disgyblion yn derbyn addysg o’r ansawdd uchaf
- I safoni ymddygiad y plant.
- I gyfweld a phenodi staff.
- I benderfynu sut mae gwario’r gyllideb.
Mae llywodraethwyr yn :-
- Rhieni
- Athrawon a staff ategol yn yr ysgol.
- Cynrychiolwyr cynghorau lleol.
- Cynrychiolwyr y gwasanaethau masnachol.
Mae rhiant-llywodraethwr :-
- Gyda phlentyn yn yr ysgol.
- Yn cael ei ethol/hethol gan rieni’r ysgol.
- Yn gwasanaethu fel bob llywodraethwr arall am gyfnod o 4 blynedd.
Mae Rhiant - Llywodraethwr yn allweddol ar gyfer dod â barn rhieni i’r corff cyfan, ond gallant drafod fel unigolion. Mae ganddynt statws cyfartal a’r hawl i fwrw pleidlais.
Byddwch chi fel rhieni yn ethol 3 Rhiant - Llywodraethwr am gyfnod o 4 blynedd.
Y Corff Llywodraethu
Cadeirydd: Cyng C Jones
Is-Gadeirydd a Rhiant: T. Patrick
Cymunedol: G. Griffiths
AALl: D. Jones
Rhiant: M. Hogan
Rhiant: Rh. Thomas
Cyngor Cymuned: S. Griffiths
Staff Dysgu: C. Lee
Staff Eraill: P. Roberts
Pennaeth: D. Hood
Clerc: W. Backhouse
