Cartref > Rhieni > Cwriclwm i Cymru
Cwriclwm i Cymru
Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid. Cliciwch yma I weld darpariaeth cwricwlwm yr Ysgol
Y pedwar diben
Pwrpas cwricwlwm yw galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Cwricwlwm newydd i Gymru
Y meysydd dysgu a phrofiad
Rhaid i’r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol (Maes/Meysydd) gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.
- Y Celfyddydau Mynegiannol.
- Iechyd a Lles.
- Y Dyniaethau.
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
- Mathemateg a Rhifedd.
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Fe fydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymwysedd digidol yn cael eu haddysgu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.
